MENU

Constitutional Pioneers

 

Darllenwch am chweched cynhadledd flynyddol ryngwladol IALC, a gynhaliwyd ar 26-27 Mehefin yn Toronto, Canada.

Lansiad y llyfr: Constitutional Pioneers: Language Commissioners and the Protection of  Official, Minority and Indigenous Languages, a gyhoeddwyd yn y gynhadledd.

Lansiwyd Constitutional Pioneers yn ystod chweched cynhadledd flynyddol IALC a gynhaliwyd yn Toronto ar 26 a 27 Mehefin, 2019. Mae'r gyfrol yn rhoi sylw i rôl, swyddogaeth a dulliau gweithio Comisiynwyr Iaith ledled y byd. Mae’n cynnwys cyfraniadau gan academyddion ac ymarferwyr mewn cyfrol dwy ran sy’n cyfuno theori ag arfer ac sy’n cynnig dadansoddiad o’r actwyr newydd hyn a luniwyd i warchod hawliau lleiafrifoedd ieithyddol ar draws y byd. Mae’r rhan gyntaf yn lleoli Comisiynwyr Iaith yn gadarn o fewn y fframwaith ddeddfwriaethol a sefydliadol y maent yn gweithredu ynddo, ac yn archwilio’r heriau sydd weithiau’n codi yn ei sgil. Mae’r ail ran yn cyflwyno cyfres o astudiaethau achos gan aelodau o Gymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith sy’n arddangos yr amryw ddulliau, llwyddiannau a heriau y dônt ar eu traws wrth gyflawni eu mandad o ddydd i ddydd.

Dyma gyfrol sy’n gyfraniad gwreiddiol i’r astudiaeth o Gomisiynwyr Iaith a bydd yn werthfawr i unrhyw un sy’n ymddiddori mewn gwarchod lleiafrifoedd ieithyddol a hawliau ieithyddol. Bydd hefyd o ddiddordeb i ymchwilwyr, myfyrwyr ac ymarferwyr ym maes hawliau dynol, gwyddor gwleidyddiaeth, gweinyddiaeth a llywodraethiant cyhoeddus.

Er mwyn archebu eich copi o'r gyfrol, cliciwch yma!