Amdanom ni
Cenhadaeth
Cenhadaeth CYMDEITHAS RYNGWLADOL Y COMISIYNWYR IAITH yw cefnogi a hyrwyddo hawliau, cydraddoldeb ac amrywiaeth ieithyddol ledled y byd a chefnogi comisiynwyr iaith fel eu bod yn gallu gweithio gan gadw at y safonau proffesiynol uchaf.
Datganiad o Weledigaeth
Mae CYMDEITHAS RYNGWLADOL Y COMISIYNWYR IAITH cefnogi rôl y comisiynwyr iaith ledled y byd drwy hybu arferion gorau a safonau rhagoriaeth.
Gwerthoedd
Gwerthoedd CYMDEITHAS RYNGWLADOL Y COMISIYNWYR IAITH
- Didwylledd: Bydd y gymdeithas yn cynnal yr holl weithgareddau’n gyfrifol â thegwch ac atebolrwydd i’w haelodau a’r proffesiwn
- Gwasanaethu: Bydd y gymdeithas yn cefnogi ei haelodau drwy ddarparu’r cyngor a’r cymorth gorau fel sy’n briodol.
- Parch: Bydd y gymdeithas yn meithrin parch at bob iaith.
- Cydweithio: Bydd y gymdeithas yn hybu rhyngweithio ymhlith ei haelodau ac yn gweithio â sefydliadau eraill er mwyn hyrwyddo’r proffesiwn a hefyd hybu hawliau, cydraddoldeb ac amrywiaeth ieithyddol.
- Annibyniaeth: Bydd y gymdeithas yn hybu’r egwyddor o annibyniaeth i gomisiynwyr iaith.
Amcanion
Dyma amcanion CYMDEITHAS RYNGWLADOL Y COMISIYNWYR IAITH:
- Hybu, cefnogi a hyrwyddo hawliau, cydraddoldeb ac amrywiaeth ieithyddol;
- Rhannu profiad, arferion gorau, dealltwriaeth a chysylltiadau rhwng swyddfeydd comisiynwyr iaith;
- Annog a galluogi cyfnewid gwybodaeth, hyfforddiant ac adnoddau datblygiad proffesiynol rhwng swyddfeydd y comisiynwyr iaith (gan gynnwys cyfleoedd cyfnewid);
- Rhannu ymchwil seiliedig ar dystiolaeth er mwyn hyrwyddo hawliau ieithyddol;
- Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o rôl a gwerth comisiynwyr iaith ymhlith llywodraethau, asiantaethau gwladwriaethol, llunwyr polisi, academia, y cyfryngau a’r cyhoedd yn gyffredinol;
- Cefnogi rhanbarthau sy’n dymuno creu swydd comisiynydd iaith neu hyrwyddo eu hawliau ieithyddol;
- Cydweithio â mudiadau sydd o'r un bryd ac yn rhoi gwerth ar hyrwyddo a gwarchod hawliau ac amrywiaeth ieithyddol; ;
- Diffinio, cyhoeddi a pharhau i adolygu’r meini prawf ar gyfer cydnabyddiaeth drwy aelodaeth i swyddfeydd comisiynwyr iaith gan y gymdeithas a chynnig aelodaeth i'r rheini sy’n bodloni’r meini prawf hyn.