MENU

Constitutional Pioneers

Pleser o’r mwyaf oedd lansio cyhoeddiad ar y cyd cyntaf yr IALC yn ystod chweched gynhadledd flynyddol y gymdeithas a gynhaliwyd ar 26–7 Mehefin yn Toronto, Canada. Ein gobaith yw y bydd Constitutional Pioneers: Language Commissioners and the Protection of Official, Minority and Indigenous Languages (Éditions Yvon Blais, 2019) yn cyfannu’n sylweddol at amcan yr IALC i addysgu pobl, llywodraethau a llunwyr polisi ar draws y byd am bwysigrwydd strategol comisiynwyr iaith i warchod a hyrwyddo ieithoedd a’u siaradwyr.

Ynglŷn â’r llyfr

Mae Constitutional Pioneers yn rhoi sylw i rôl, swyddogaeth a dulliau gweithio Comisiynwyr Iaith ledled y byd. Mae’n cynnwys cyfraniadau gan academyddion ac ymarferwyr mewn cyfrol dwy ran sy’n cyfuno theori ag arfer ac sy’n cynnig dadansoddiad o’r actwyr newydd hyn a luniwyd i warchod hawliau lleiafrifoedd ieithyddol ar draws y byd. Mae’r rhan gyntaf yn lleoli Comisiynwyr Iaith yn gadarn o fewn y fframwaith ddeddfwriaethol a sefydliadol y maent yn gweithredu ynddo, ac yn archwilio’r heriau sydd weithiau’n codi yn ei sgil. Mae’r ail ran yn cyflwyno cyfres o astudiaethau achos gan aelodau o Gymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith sy’n arddangos yr amryw ddulliau, llwyddiannau a heriau y dônt ar eu traws wrth gyflawni eu mandad o ddydd i ddydd. Dyma gyfrol sy’n gyfraniad gwreiddiol i’r astudiaeth o Gomisiynwyr Iaith a bydd yn werthfawr i unrhyw un sy’n ymddiddori mewn gwarchod lleiafrifoedd ieithyddol a hawliau ieithyddol. Bydd hefyd o ddiddordeb i ymchwilwyr, myfyrwyr ac ymarferwyr ym maes hawliau dynol, gwyddor gwleidyddiaeth, gweinyddiaeth a llywodraethiant cyhoeddus.

Ceir yn y gyfrol gyfraniadau gan:

Golygwyd y gyfrol gan Dr Hermann Amon a Dr Eleri James.

Ceir copi o’r tabl cynnwys yma:

Table of Contents (Saesneg yn unig)

Mae’r diolchiadau a’r rhagair i’r gyfrol i’w gweld yn llawn isod:

Acknowledgements and Foreword (Saesneg yn unig)

Archebu copïau  

Hoffai’r IALC ddiolch i wasg Éditions Yvon Blais a Thomson Reuters Canada am bob cymorth yn cyhoeddi’r gyfrol hon. Gellir prynu copïau o’r gyfrol yn uniongyrchol ganddynt:  Dolen i wefan allanol.

Pe bai gennych chi unrhyw gwestiynau am y cyhoeddiad hwn, mae croeso i chi gyfeirio unrhyw ymholiadau at info@languagecommissioners.org at sylw’r golygyddion, Dr Hermann Amon (Ontario) a Dr Eleri James (Cymru).