MENU

Cynhadledd

Cynhadledd Ryngwladol Flynyddol, Cymru (16–17 Mai 2017)

Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, yw cadeirydd IALC ar hyn o bryd, ac fe gynhaliwyd cynhadledd flynyddol y gymdeithas yng Nghaerdydd fis Mai 2017. Thema’r gynhadledd oedd ‘Iaith Gwaith: Pwysigrwydd technoleg a chynllunio strategol i’r gweithle dwyieithog’ lle cafwyd cyfraniadau gan siaradwyr rhyngwladol yn ogystal â siaradwyr o Gymru. Ceir rhagor o wybodaeth am y gynhadledd a’r siaradwyr yma. Dymuna'r Comisiynydd ddiolch i VTCT, prif noddwyr y gynhadledd, am nawdd hael tuag at y digwyddiad hwn.

Dyma ddolen at luniau swyddogol y gynhadledd a’r lansiad: Lluniau swyddogol.

Mae modd darllen prif anerchiad y gynhadledd gan Graham Fraser, Cyn-gomisiynydd Ieithoedd Swyddogol Canada, drwy ddilyn y ddolen yma: Araith Graham Fraser

Mae modd gwylio sesiynau’r gynhadledd yn llawn (ag isdeitlau) drwy ddilyn y dolenni yma:

Lansiwyd y gynhadledd mewn digwyddiad min nos yn adeilad y Pierhead dan nawdd y Prif Weinidog. Roedd y derbyniad hwn hefyd yn gyfle i nodi 50 mlwyddiant Deddf yr Iaith Gymraeg (1967): deddfwriaeth arwyddocaol o safbwynt y Gymraeg a sefydlodd yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg mewn achosion llys ac a fraenarodd y tir ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth ddiweddarach i gydnabod hawliau siaradwyr Cymraeg. Gallwch dderbyn rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yma. Dymuna'r Comisiynydd ddiolch am nawdd hael Cymdeithas y Cyfreithwyr tuag at y digwyddiad hwn.

Mae modd darllen anerchiad Y Gwir Anrhydeddus Syr David Lloyd Jones, Arglwydd Ustus Apêl, drwy ddilyn y ddolen yma: Deddf yr Iaith Gymraeg 1967: yr hanner canrif cyntaf.

Dyma lun o’r aelodau a oedd yn bresennol ar gyfer cyfarfod cyffredinol blynyddol y Gymdeithas a gynhaliwyd yn y Pierhead ar 16 Mai 2017

Members present for the Association’s annual general meeting

(Rhes flaen (o’r chwith): Bart Weekers, Katherine D’Entremont, Meri Huws, Shannon Gullberg, Ghislaine Saikaley.
Rhes gefn (o’r chwith): Manuel Lezertua, François Boileau, Mar Aldeano (ar ran Ombwdsmon Catalonia), Rónán Ó Domhnaill, Slaviša Mladenović.)

Conference 2017 Program

Conference 2017 Program

With Thanks To

The Law Society

LinguaSkin

VTCT