MENU

Rheolau

  1. Enw
    Yr enw ar y Gymdeithas fydd:
    Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith
  2. Amcanion
    Bydd amcanion y Gymdeithas fel a ganlyn:
    • Hybu, cefnogi a hyrwyddo hawliau, cydraddoldeb ac amrywiaeth ieithyddol;
    • Rhannu profiad, dealltwriaeth a chysylltiadau rhwng swyddfeydd comisiynwyr iaith;
    • Annog cyfnewid gwybodaeth a dysgu oddi wrth ei gilydd rhwng swyddfeydd y comisiynwyr iaith a darparu cyfrwng i aelodau hyrwyddo arferion gorau a datblygu sylfaen wybodaeth gadarnach am ymdrechion i amddiffyn hawliau ieithyddol;
    • Creu mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o rôl a gwerth Comisiynwyr Iaith ymhlith Llywodraethau, asiantaethau gwladwriaethol, academia, y cyfryngau a’r cyhoedd yn gyffredinol;
    • Diffinio, cyhoeddi a pharhau i adolygu’r meini prawf ar gyfer cydnabyddiaeth i swyddfeydd comisiynwyr iaith gan y Gymdeithas ac i ddyfarnu cydnabyddiaeth i’r rhai sy’n bodloni’r meini prawf penodol ar gyfer cydnabyddiaeth fel comisiynwyr iaith ledled y byd;
    • Cefnogi rhanbarthau sy’n dymuno creu swydd comisiynydd iaith neu wella eu hawliau ieithyddol;
    • Rhannu hyfforddiant a datblygiad neu gyfleoedd cyfnewid gwaith;
    • Rhannu ymchwil seiliedig ar dystiolaeth er mwyn hyrwyddo hawliau ieithyddol.
  3. Diffiniad
    Bydd aelodaeth y Gymdeithas yn cael ei chadw ar gyfer:
    1. Unrhyw Gomisiynydd Iaith a gynrychiolwyd yng nghyfarfod cyntaf y Gymdeithas yn Nulyn, Iwerddon ar 24 Mai 2013 ac sy’n cytuno i reolau’r Gymdeithas a ffurfiwyd yno.
    2. Unrhyw swyddfa Comisiynydd Iaith a gydnabyddir wedi hynny gan y Gymdeithas fel swyddfa sy’n bodloni Meini Prawf y Gymdeithas ar gyfer Cydnabod Swyddfeydd Comisiynwyr Iaith. Mae’r Meini Prawf wedi’u hatodi yn yr Atodiad.
  4. Swyddogion
    1. Bydd gan y Gymdeithas Gadeirydd ac Ysgrifennydd. Mae’n rhaid i’r Cadeirydd fod yn aelod o’r Gymdeithas.
    2. Bydd y Cadeirydd a’r Ysgrifennydd yn cael eu cynnig, eu heilio a’u hethol yn unigol gan Aelodau’r Gymdeithas yn y Cyfarfod Blynyddol a byddant yn eu swydd nes cloi’r Cyfarfod Blynyddol nesaf pryd bydd ef neu hi yn ymddeol. Caiff y Gymdeithas lenwi unrhyw swydd wag a gyfyd oherwydd ymddiswyddiad neu unrhyw reswm arall yn unol â'i disgresiwn. Bydd Cadeirydd neu Ysgrifennydd sy’n ymddeol yn gymwys i gael ei ailethol ar gyfer ail dymor ond ni chaiff wasanaethu am fwy na dau dymor yn olynol. Gwneir penderfyniadau yn unol â phleidleisiau mwyafrif yr aelodau sy’n bresennol.
    3. Gall y Gymdeithas ychwanegu rhagor o swyddogion – hyd at 4 mewn nifer – fel sy’n ofynnol ymhen amser.
  5. Aelodaeth
    1. Penderfynir ar yr aelodaeth yn unol â’r Rheolau presennol a meini prawf y Gymdeithas ar gyfer Cydnabod Swyddfeydd Comisiynwyr Iaith yn yr atodiad.
    2. Bydd y Gymdeithas yn penderfynu ar geisiadau dilynol am aelodaeth yn unol â phleidlais mwyafrif yr aelodau sy’n bresennol.
    3. Bydd yr Ysgrifennydd yn cadw rhestr ddiweddar o Aelodau’r Gymdeithas.
  6. Tanysgrifio
    1. Bydd pob Aelod yn talu un tanysgrifiad bychan sy’n cyfateb mewn gwerth i €10 er mwyn cofnodi ei aelodaeth.
    2. Penderfynir ar swm unrhyw danysgrifiad pellach, os bydd yn codi, gan y Gymdeithas, o dro i dro.
  7. Ymddiswyddiad
    Bydd Aelod yn ildio ei aelodaeth wrth roi rhybudd ysgrifenedig i’r Gymdeithas am ei ymddiswyddiad.
  8. Diarddel
    Bydd gan y Gymdeithas bwerau i ddiarddel Aelod os nad yw'r Aelod, ym marn y Gymdeithas, yn bodloni’r Meini Prawf bellach ar gyfer cydnabyddiaeth o aelodaeth. Bydd rhaid wrth fwyafrif o ddwy ran o dair o aelodau er mwyn diarddel.
  9. Cyfarfod Blynyddol
    1. Bydd y Gymdeithas yn cynnal Cyfarfod Blynyddol wyneb yn wyneb neu drwy ddull electronig bob blwyddyn er mwyn trafod y canlynol:
      1. Derbyn adroddiad y Cadeirydd ar weithgareddau’r Gymdeithas yn ystod y flwyddyn flaenorol;
      2. Ethol Cadeirydd ac Ysgrifennydd ar gyfer y flwyddyn ddilynol;
      3. Cytuno ar gynllun gwaith ar gyfer y Gymdeithas ar gyfer y flwyddyn ddilynol;
      4. Cytuno ar unrhyw fusnes perthnasol a fydd yn hybu amcanion y Gymdeithas.
    2. Bydd yr Ysgrifennydd neu, yn absenoldeb yr Ysgrifennydd, aelod o’r Gymdeithas, yn cadw cofnodion yn y Cyfarfodydd Blynyddol ac yn eu dosbarthu o fewn mis i ddyddiad y cyfarfod hwnnw.
    3. Gellir gwahodd unrhyw gyn gomisiynydd neu ombwdsmon, neu berson academaidd adnabyddus a fydd, ym marn y Gymdeithas, yn gallu cyfrannu at ei gwaith, i’r Cyfarfod Blynyddol neu i gyfarfodydd eraill y Gymdeithas. Mae hyn yn berthnasol hefyd i weision sifil ar lefel uchel o wledydd amlieithog sy’n mynegi diddordeb cadarnhaol yn sefydliad y Comisiynwyr Iaith.
  10. Ieithoedd
    Saesneg fydd iaith gwaith y Gymdeithas a bydd y dogfennau sefydlu’n cael eu cyfieithu gan yr aelodau i’w hieithoedd swyddogol eu hunain. Bydd yr aelodau’n darparu deunydd y cytunwyd arno yn eu hiaith neu ieithoedd swyddogol o ddewis ar gyfer ei gynnwys yng ngwefan y Gymdeithas. Cynhelir cynadleddau’r Gymdeithas yn Saesneg ac yn ieithoedd swyddogol yr awdurdodaeth ble cynhelir pob cynhadledd.
  11. Addasu’r Rheolau a’r Meini Prawf
    1. Gellir addasu’r Rheolau a’r Atodiad i’r Rheolau drwy benderfyniad mewn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar yr amod bod mwyafrif yr aelodau sy’n bresennol wedi pleidleisio dros benderfyniad o’r fath.
    2. Daw unrhyw ddiwygiadau i’r rheolau a’r atodlen i rym ar unwaith ar ôl eu mabwysiadu gan y Gymdeithas, oni bai y nodir yn wahanol gan y Gymdeithas.

ATODIAD I’R RHEOLAU

MEINI PRAWF AR GYFER CYDNABOD AELODAETH

  1. GOFYNION AR GYFER Aelodaeth
    Egwyddorion Arweiniol

    Bydd y Gymdeithas yn rhoi cydnabyddiaeth fel Comisiynydd Iaith ac Aelodaeth o’r Gymdeithas i’r cyrff hynny y mae eu rôl yn cynnwys unrhyw un neu bob un o’r canlynol: ymchwilio a datrys, penderfynu neu wneud argymhellion mewn perthynas â chwynion cysylltiedig ag iaith yn erbyn y rhai y mae gan Swyddfeydd o’r fath bwerau i ymchwilio iddynt neu sy’n gweithredu fel gwasanaethau cydymffurfio neu ymgynghorol mewn perthynas â hawliau a rhwymedigaethau ieithyddol.

    Nid yw’r aelodaeth wedi’i chadw’n eithriol i’r rhai y mae eu teitl yn cynnwys y geiriau ‘Comisiynydd Iaith’ ac nid yw’r Gymdeithas yn eithrio o aelodaeth unrhyw ombwdsmon neu swyddogion tebyg sydd â gwasanaethau trin cwynion neu gydymffurfiaeth cysylltiedig ag iaith fel rhan bwysig o’u mandad neu ble mae elfen nodedig o waith y gwasanaeth hwnnw’n canolbwyntio ar faterion hawliau ieithyddol.

    Meini Prawf
    Dyma brif feini prawf y Gymdeithas ar gyfer Cydnabod Swyddfeydd Comisiynwyr Iaith:

    Rôl – fel ombwdsmon, gwasanaethau cydymffurfio neu ymgynghorol yng nghyswllt hawliau neu rwymedigaethau ieithyddol
    Annibyniaeth – annibyniaeth o ran cyflawni ei swyddogaeth
    Tegwch – wedi ymrwymo i sicrhau tegwch fel gwerth craidd 
    Agored – yn dryloyw yn ei ddull o weithredu
    Atebolrwydd – yn atebol i’r cyhoedd neu senedd briodol

    Llywodraethu

    Mae’r Gymdeithas yn disgwyl i Swyddfeydd Comisiynwyr Iaith gydymffurfio â normau ac egwyddorion llywodraethu da sydd wedi'u sefydlu wrth gyflawni eu swyddogaethau ac yn unol â'u mandad deddfwriaethol.

    Cydnabyddiaeth

    Bydd y penderfyniad ynghylch a yw Swyddfeydd Comisiynwyr Iaith yn cael eu cydnabod am fodloni’r meini prawf ar gyfer Aelodaeth o’r Gymdeithas yn cael ei wneud yn unol â disgresiwn y Gymdeithas.